
Llety Hunanddarpar Trawiadol ger Llanrhaeadr
Mae llety hunanddarpar Owl Barn Retreat, ger Llanrhaeadr, yn lle rhagorol i fwynhau prydferthwch Dyffryn Tanat a Bryniau’r Berwyn. Mae’r ysgubor wedi’i drosi gan ddilyn manyleb werdd a chynaliadwy ac rydyn ni’n falch iawn o fod wedi ennill gwobr Aur y Cynllun Busnesau Twristiaeth Werdd yn 2012.
Mae’r encilfa drawiadol hon, lle mae croeso i anifeiliaid anwes, mewn lleoliad gwledig prydferth â chaeau tonnog a bywyd gwyllt o’i amgylch. Mae’n filltir i ffwrdd o bentref bach tlws Llanrhaeadr ym Mochnant lle ceir caffi, cigyddion gwych, swyddfa’r post, siopau groseriaid a dewis da o dafarnau. Nid nepell o lety gwyliau Owl Barn Retreat mae Pistyll godidog Rhaeadr, sef y rhaeadr mwyaf yng Nghymru a’r un talaf yn y DU, mewn ardal swynol gudd ym Mynyddoedd y Berwyn.
Mae yna ardd bywyd gwyllt gyferbyn â’r bwthyn sy’n denu llawer o adar, glöynnod byw, gweision y neidr, llyffantod ac ati. Mae 2 fainc ar gael sydd wedi’u gwneud o bren sydd wedi’i adfer. Hefyd, mae yna 2 gae i gerdded ynddyn nhw, gyda meinciau mewn gwahanol leoliadau golygfaol. Yn gyfan gwbl, mae yna fwy na 2 erw o dir, gyda chefn gwlad agored trawiadol Dyffryn Tanat o amgylch ym mhobman.
Rydyn ni o’r farn bod Owl Barn Retreat yn cynnig cyfle delfrydol i’n gwesteion Ymlacio, Ailweindio ac Adfywio ymhlith bryniau hudol Canolbarth Cymru.
I weld pa gyfnodau sydd ar gael ac i archebu lle yn Owl Barn Retreat cliciwch yma.

ENILLYDD PEDAIR SEREN
CROESO CYMRU

ENILLYDD GWOBR AUR
TWRISTIAETH WERDD
